Neidio i'r cynnwys
English Welsh
logo
  • Cartref (cyfredol)
  • Cyflwyno cais newydd (cyfredol)
  • Rheoli fy ngeisiadau (cyfredol)
  • Dewiswch iaith
    • English
    • Welsh
Mewngofnodi

Hygyrchedd

#Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Chwaraeon Cymru#

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Borthol Buddsoddiadau Cymunedol Chwaraeon Cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru). Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau

- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin a heb i'r cynnwys gael ei gwtogi neu orgyffwrdd

- symud drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

- symud drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd

- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan [AbilityNet](https://mcmw.abilitynet.org.uk/) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

## Pa mor hygyrch ydi’r wefan yma ##

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

- Dangosir y cyfarwyddyd "* Maes gofynnol" ar y dudalen "Amdanoch chi a'ch sefydliad", ar ôl y ffurflen. Nid oes yr un o'r mewnbynnau wedi'u marcio gyda seren.

- Nid yw’r testun help wedi'i farcio'n gywir ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin.

- Nid oes gan rai meysydd mewnbynnu sy'n casglu data personol unigolyn ar rai tudalennau (Mewngofnodi / Cofrestru) ac ar y dudalen "Mewngofnodi" a'r dudalen "Cofrestru" y priodoleddau "awtogwblhau" angenrheidiol.

- Ni oes modd diystyru'r awgrymiadau adnoddau yn y pennawd a'r troedyn ac elfennau eraill ar y rhan fwyaf o dudalennau unwaith y bydd yr awgrym adnoddau’n cael ei arddangos, fel defnyddio'r allwedd [Escape].

- Nid yw rhai tudalennau'n darparu mwy nag un ffordd i ddod o hyd i dudalennau gwe eraill o fewn yr un wefan.

- Nid oes modd pennu rhai negeseuon statws, ar amrywiol dudalennau, yn rhaglennol drwy rôl neu briodweddau fel bod modd eu cyflwyno i'r defnyddiwr gan dechnolegau cynorthwyol heb iddynt dderbyn ffocws. Mae hyn yn golygu nad yw defnyddwyr yn ymwybodol o newidiadau mewn cynnwys nad ydynt yn derbyn ffocws.

###Problemau sy'n effeithio ar bobl sy'n defnyddio llywio bysellfwrdd###

- Mae angen i'r ffocws fod yn yr ardal y mae posib ei golygu ar gyfer pob bocs testun golygu cynnwys sydd â bar offer ynddynt cyn pwyso Alt+F10 i ganiatáu i'r ffocws symud i'r bar offer. Nid yw hyn yn cael ei gyfleu i ddefnyddwyr.

- Pan fydd ymatebion yn dderbyniol, yn y dudalen crynodeb, caiff y ddolen gwall ei disodli gan destun plaen. Mae stop TAB diangen yn aros.

###Problemau sy'n effeithio ar ddefnyddwyr darllenydd sgrin###

- Mae gan rai delweddau destun alt sydd ddim yn cyfleu'n briodol yr hyn a ddangosir neu bwrpas rheolydd.

- Mae gan rai tudalennau deitlau tudalen generig sydd ddim yn disgrifio pwnc na phwrpas y dudalen yn briodol.

- Mae rhai dolenni diangen yn y dudalen crynodeb lle nad yw'r pwrpas yn cael ei gyfleu gan destun y ddolen yn unig.

- Mae pob tudalen yn defnyddio Saesneg rhyngwladol fel iaith yn rhaglennol.

###Problemau sy’n effeithio ar bobl sydd â golwg gwan###

- Nid oes gan rai testunau mewn gwahanol gydrannau gymhareb cyferbyniad o 4:5:1. Gall hyn wneud y testun yn anodd i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg ei ddarllen.

- Nid oes gan rai cyfuniadau o liwiau cyfagos mewn cydrannau ar rai tudalennau gymhareb cyferbyniad o 3:1 o leiaf. Mae hyn yn golygu nad oes posib i bobl â golwg cymharol wan wahaniaethu rhwng rhai cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr gweithredol (h.y., rheolyddion) a graffeg ystyrlon.

- Nid oes gan rai cyfuniadau o liwiau cyfagos mewn cydrannau heb fod yn destun gymhareb cyferbyniad o 3:1 o leiaf. Mae hyn yn golygu nad oes posib i bobl â golwg cymharol wan wahaniaethu rhwng rhai cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr gweithredol (h.y., rheolyddion) a graffeg ystyrlon.

##Adborth a gwybodaeth gyswllt##

Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd y wefan hon. Rhowch wybod i ni os:

- dewch o hyd i unrhyw broblemau hygyrchedd nad ydynt wedi'u nodi yn y datganiad hwn

- oes arnoch chi angen unrhyw gynnwys mewn fformat gwahanol

Gallwch gysylltu â ni ar:

- e-bost ar communications@sport.wales

- dros y ffôn ar 02920 338359

- drwy’r post i Cyfathrebu a Digidol, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW

Rydym yn ceisio ymateb i adborth o fewn 5 diwrnod busnes. Rydym yn croesawu cyswllt yn y Gymraeg a byddwn yn ymateb yn y Gymraeg. Ni fydd dewis y Gymraeg yn achosi unrhyw oedi.

##Gweithdrefn orfodi##

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus gyda sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, [cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)](https://www.equalityadvisoryservice.com/).

##Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma##

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

###Statws cydymffurfio###

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

##Cynnwys anhygyrch##

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

###Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd###

- Nid yw'r ddolen sy'n cynnwys y logo yn y pennawd ar bob tudalen wedi'i marcio'n gywir ar gyfer darllenydd sgrin. (WCAG 2.2 AA maen prawf 1.1.1 - Cynnwys heb destun).

- Nid yw rhai penawdau, labeli a thestun wedi'u marcio'n gywir felly nid yw defnyddwyr darllenydd sgrin yn gallu adnabod strwythur y tudalennau nac fel labeli o fewn ffurflenni. (WCAG 2.2 AA maen prawf 1.3.1 - Gwybodaeth a Pherthnasoedd).

- Mae gan rai tudalennau deitlau tudalen generig ond nid ydynt yn disgrifio pwnc na phwrpas y dudalen yn briodol. (WCAG 2.2 AA maen prawf 2.4.2 - Tudalen â Theitl).

- Pan mae ymatebion yn dderbyniol, yn y dudalen crynodeb, mae'r ddolen gwall yn cael ei disodli am destun plaen. Mae stop TAB diangen yn parhau. (WCAG 2.2 AA maen prawf 2.4.3 - Trefn Ffocws).

- Mae rhai dolenni diangen yn y dudalen crynodeb lle nad yw'r pwrpas yn cael ei gyfleu gan destun y ddolen yn unig. (WCAG 2.2 AA maen prawf 2.4.4 - Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun)).

- Mae angen i bob bocs testun golygu cynnwys sydd â bar offer ynddynt fod â’r ffocws yn yr ardal y mae posib ei golygu cyn pwyso Alt+F10 i ganiatáu i'r ffocws symud i'r bar offer. Nid oes unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch hyn. (WCAG 2.2 AA maen prawf - Labeli a Chyfarwyddiadau).

- Nid yw rhai botymau, penawdau tablau, ac i-fframiau wedi'u marcio'n gywir ar gyfer darllenydd sgrin. (WCAG 2.2 AA maen prawf 4.1.2 - Enw, Rôl, Gwerth).

- Nid oes gan rai meysydd mewnbynnu sy'n casglu data personol unigolyn fel y dudalen "Mewngofnodi" a "Chofrestru" y priodoleddau "awtogwblhau" angenrheidiol. (WCAG 2.2 AA maen prawf 1.3.5 - Nodi Diben Mewnbynnu).

- Nid oes gan rai testunau mewn gwahanol gydrannau gymhareb cyferbyniad o 4:5:1. (WCAG 2.2 AA maen prawf 1.4.3 - Cyferbyniad Lliw).

- Nid oes gan rai cyfuniadau o liwiau cyfagos mewn cydrannau ar rai tudalennau gymhareb cyferbyniad o 3:1 o leiaf. (WCAG 2.2 AA maen prawf 1.4.11 - Cyferbyniad Heb Destun).

- Ni oes modd diystyru'r awgrymiadau adnoddau yn y pennawd a'r troedyn a chydrannau eraill ar y rhan fwyaf o dudalennau y bydd yr awgrym adnoddau’n cael ei arddangos, fel defnyddio'r allwedd [Escape]. (WCAG 2.2 AA maen prawf 1.4.13 - Cynnwys ar Hofran neu Ffocws).

- Nid yw rhai tudalennau'n darparu mwy nag un ffordd i ddod o hyd i dudalennau gwe eraill o fewn yr un wefan. (WCAG 2.2 AA maen prawf 2.4.5 - Ffyrdd Lluosog).

- Ni oes modd pennu rhai negeseuon statws, ar amrywiol dudalennau, yn rhaglennol drwy rôl neu briodweddau fel bod modd eu cyflwyno i'r defnyddiwr drwy dechnolegau cynorthwyol heb iddynt dderbyn ffocws. (WCAG 2.2 AA maen prawf 4.1.3 - Negeseuon Statws).

###Baich anghymesur###

Amherthnasol - rydym yn bwriadu cywiro’r holl broblemau rydym wedi'u nodi hyd yma wrth brofi. 

##Cynnwys heb fod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd##

Amherthnasol

##Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd##

Byddwn yn datrys pob problem diffyg cydymffurfio sydd o fewn ein rheolaeth (a nodir o dan 'diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd') ac yn diweddaru'r datganiad hwn.

Er mwyn sicrhau hygyrchedd y wefan hon, rydym wedi cynnwys:

- ymgorffori hygyrchedd yn ein proses gaffael

- rhoi hyfforddiant hygyrchedd i'n staff

- adolygiadau rheolaidd o gynnwys

- archwiliadau hygyrchedd allanol blynyddol

Rydym hefyd yn ceisio sicrhau’r canlynol:

- bod pob delwedd yn cynnwys testun amgen priodol

- bod elfennau rhyngweithiol yn hygyrch mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy lywio bysellfwrdd

- bod elfennau rhyngweithiol yn newid arddull wrth hofran drostynt neu roi ffocws arnynt gyda'r bysellfwrdd

- bod gan bob cyfuniad o liwiau ddigon o gyferbyniad rhyngddynt

- bod ein cynnwys yn glir, yn gryno, heb jargon ac mewn iaith glir

- bod pob tudalen yn defnyddio penawdau mewn ffordd resymegol

- bod pob 'cais am weithredu' yn hawdd eu canfod

- bod symbolau (fel '>') yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun ac yn gwneud synnwyr

- bod posib symud drwy bob ffurflen gan ddefnyddio'r bysellfwrdd, bod ganddynt fotymau cyflwyno a bod ganddynt ymatebion rhag ofn y bydd llwyddiant neu fethiant

##Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn##

###Sut gwnaethom brofi’r wefan hon###

Mae'r wefan hon wedi cael ei harchwilio i sicrhau cydymffurfiaeth â WCAG 2.2 AA. Profwyd sampl o dudalennau a oedd yn adlewyrchu holl siwrneiau allweddol defnyddwyr y porthol Buddsoddiadau Cymunedol.

Profwyd: Y Porthol Buddsoddiadau Cymunedol, sydd ar gael yn: [https://uobzeyhs3tjr.optimytool.com/en](https://uobzeyhs3tjr.optimytool.com/en "Porthol Buddsoddiadau Cymunedol")

Profwyd y wefan hon gyntaf ar 03 Ebrill 2026. Cynhaliwyd y prawf gan [Test Partners Ltd](http://www.testpartners.co.uk "Test Partners Ltd").

###Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn###

Paratowyd y datganiad hwn ar 09 Ebrill 2026. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 20 Mai 2026.

Dilynwyd canllawiau GOV.UK ar benderfynu sut i wirio Porthol Buddsoddiadau Cymunedol Chwaraeon Cymru fel a ganlyn:

- Aseswyd yr holl dudalennau “unigryw” yn faniwal i benderfynu ar y math o gynnwys ar y tudalennau hynny.

- Nodwyd is-set gynrychioliadol isafswm o dudalennau sy'n cynnwys enghreifftiau o'r llunweddau, y cydrannau a’r nodweddion mwyaf cyffredin, gan gynnwys y canlynol:

- “Tudalennau unigryw” pwysig.

- Tudalennau â chynnwys testun.

- Elfennau rhyngweithiol fel ffurflenni.

- Cynhaliwyd archwiliad WCAG maniwal ar yr is-set gynrychioliadol o dudalennau.

Cartref
powered by optimy-logo-footer
©
Dewisiadau cwcis
Hygyrchedd
Cwestiynau Cyffredin
English Welsh
powered by optimy-logo-footer-mobile

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis

Pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw wefan, gall y wefan storio neu adfer gwybodaeth ar eich porwr gwe, yn bennaf ar ffurf cwcis. Gallai'r wybodaeth hon fod amdanoch chi, eich dewisiadau neu'ch dyfais ac fe'i defnyddir yn bennaf i wneud i'r wefan weithio fel rydych yn disgwyl iddi weithio. Nid yw'r wybodaeth fel arfer yn eich adnabod yn uniongyrchol, ond gall roi profiad gwe mwy personol i chi. Rydym yn parchu eich preifatrwydd, ac mae gennych y dewis o reoli pa fathau o gwcis sy'n cael eu caniatáu. Bydd y rhestr hon bob amser yn dangos y cwcis angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn i'r wefan weithredu. Os defnyddir cwcis ychwanegol ar y wefan hon, gallwch glicio ar benawdau'r categorïau i ddysgu mwy ac addasu eich dewisiadau.

Mwy o wybodaeth am gwcis