Neidio i'r cynnwys
English Welsh
logo
  • Cartref (cyfredol)
  • Cyflwyno cais newydd (cyfredol)
  • Rheoli fy ngeisiadau (cyfredol)
  • Dewiswch iaith
    • English
    • Welsh
Mewngofnodi

Preifatrwydd

Pwy ydym ni

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy'n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a'ch gwybodaeth bersonol. Mae'r polisi hwn yn nodi'r sail rydym yn ei rhoi ar waith i gasglu, defnyddio a diogelu eich data personol at ddibenion grantiau a buddsoddiadau.

Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein harferion ynghylch eich data personol a sut byddwn yn ei brosesu.

Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â'r wefan hon) rydych yn cydnabod y wybodaeth a nodir yn y polisi hwn. Darperir y polisi hwn er mwyn tryloywder ac nid yw'n dibynnu ar eich caniatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu oni nodir yn benodol.

At ddibenion y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data yn y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018, y rheolydd data yw CYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru'r ICO: Z5769715

Diben y Prosesu

Er mwyn asesu a gweinyddu ceisiadau am grantiau a chyllid, mae angen i ni gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol.

Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol fel rhan o'n rôl fel corff cyhoeddus ac er mwyn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n ymwneud â llywodraethu grantiau, archwilio, atebolrwydd a gweinyddu cyllid cyhoeddus.

Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu

Caiff data personol ei brosesu o dan y canlynol:

  • Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU – Tasg Gyhoeddus / Ymarfer Awdurdod Swyddogol; a
  • Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU – Cydymffurfio â Rhwymedigaeth Gyfreithiol lle mae llywodraethu grantiau’n gwneud hynny’n ofynnol.

Lle mae data categori arbennig yn cael ei brosesu, fel gwybodaeth monitro cydraddoldeb, gallwn ddibynnu ar y canlynol:

  • Darpariaethau Budd Cyhoeddus Sylweddol o dan ddeddfwriaeth diogelu data;
  • Caniatâd penodol lle mae hynny’n briodol.

Yr Wybodaeth Rydym Yn Ei Chasglu

Efallai y byddwn yn casglu’r canlynol:

  • Enw;
  • Cyfeiriad;
  • Cyfeiriad e-bost;
  • Rhif ffôn;
  • Gwybodaeth am geisiadau grant a chyllid;
  • Gwybodaeth ariannol a sefydliadol;
  • Dogfennau ategol;
  • Gohebiaeth sy'n ymwneud â cheisiadau;
  • Cofnodion am benderfyniadau cyllido;
  • Gwybodaeth monitro cydraddoldeb, gan gynnwys ethnigrwydd, anabledd a rhywedd, lle mae’n cael ei darparu.

Sut Rydym yn Defnyddio Eich Gwybodaeth

Rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

  • Asesu ceisiadau am grantiau;
  • Penderfynu ar gymhwysedd;
  • Gweinyddu dyfarniadau cyllido;
  • Monitro gweithgareddau sy’n cael eu cyllido;
  • Atal twyll a chamddefnyddio arian cyhoeddus;
  • Bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol, archwilio a rheoleiddiol;
  • Cynhyrchu adroddiadau ystadegol a monitro cydraddoldeb.

Rhannu Gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda’r canlynol:

  • Partneriaid mewn awdurdodau lleol;
  • Y Loteri Genedlaethol a chyrff cefnogi statudol y Loteri.
  • Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a phartneriaid asesu eraill;
  • Aseswyr allanol sy'n darparu cyngor proffesiynol;
  • Archwilwyr a chynghorwyr proffesiynol;
  • Cyrff rheoleiddio;
  • Asiantaethau gorfodi'r gyfraith lle mae’r gyfraith yn gwneud hynny’n ofynnol.

Ni fyddwn byth yn gwerthu gwybodaeth bersonol. Dim ond lle mae sail gyfreithlon i wneud hynny y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu.

Cadw Gwybodaeth

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol:

  • Yn gyffredinol am hyd at saith (7) mlynedd ar ôl cwblhau rhaglen grant; neu
  • Hyd at un mlynedd ar hugain (21) lle mae grantiau'n ymwneud ag eiddo, tir neu brosiectau adeiladu.

Gall gwybodaeth gael ei chadw am gyfnod hirach pan mae’r gyfraith, rhwymedigaethau archwilio neu weithrediadau cyfreithiol parhaus yn gwneud hynny’n ofynnol.

Eich Hawliau

O dan gyfraith diogelu data'r DU, mae gan unigolion hawliau, gan gynnwys y canlynol:

  • Yr hawl i fynediad;
  • Yr hawl i gywiro;
  • Yr hawl i ddileu (lle mae hynny'n berthnasol);
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu;
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu;
  • Yr hawl i gludadwyedd data (lle mae hynny'n berthnasol);
  • Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl lle mae prosesu’n seiliedig ar ganiatâd.

I arfer eich hawliau, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data

E-bost: DPO@sport.wales

Rhif Ffôn: +44 (0)29 2033 8259

Cwynion

Os oes gennych chi bryderon ynghylch sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin, cysylltwch â ni i ddechrau.

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwefan: https://ico.org.uk

Rhif Ffôn: 0303 123 1113

Cartref
powered by optimy-logo-footer
©
Hysbysiad cyfreithiol
Preifatrwydd
Dewisiadau cwcis
Hygyrchedd
Cwestiynau Cyffredin
English Welsh
powered by optimy-logo-footer-mobile

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis

Pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw wefan, gall y wefan storio neu adfer gwybodaeth ar eich porwr gwe, yn bennaf ar ffurf cwcis. Gallai'r wybodaeth hon fod amdanoch chi, eich dewisiadau neu'ch dyfais ac fe'i defnyddir yn bennaf i wneud i'r wefan weithio fel rydych yn disgwyl iddi weithio. Nid yw'r wybodaeth fel arfer yn eich adnabod yn uniongyrchol, ond gall roi profiad gwe mwy personol i chi. Rydym yn parchu eich preifatrwydd, ac mae gennych y dewis o reoli pa fathau o gwcis sy'n cael eu caniatáu. Bydd y rhestr hon bob amser yn dangos y cwcis angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn i'r wefan weithredu. Os defnyddir cwcis ychwanegol ar y wefan hon, gallwch glicio ar benawdau'r categorïau i ddysgu mwy ac addasu eich dewisiadau.

Mwy o wybodaeth am gwcis